Read this in English
Yn ystod Chwefror 2025, rydym yn bwriadu ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ledled y cenhedloedd ynghylch y cymwyseddau, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau sgrin yn ymwneud â rolau mewn cynyrchiadau. Diben hyn fyddai er mwyn datblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol newydd sbon i adlewyrchu sut ddylai arfer gorau ymddangos i weithwyr fesul diwydiant.
Hoffem dderbyn eich adborth ynghylch y safonau newydd canlynol:
- Cydlynu Hygyrchedd ar gyfer Cynyrchiadau – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi cynyrchiadau i nodi a goresgyn rhwystrau posibl a gwirioneddol o ran hygyrchedd ar gyfer yr holl staff, y cast a’r criw. Diben hyn fyddai cynyddu’r gynrychiolaeth o bobl Fyddar, Anabl, Niwrowahanol a/neu Awtistig (DDNA) yn y diwydiannau creadigol fel Cydlynydd Hygyrchedd neu Gydlynydd Hygyrchedd Arweiniol ar gynyrchiadau.
- Cydlynu Cyfathrach ar gyfer Cynyrchiadau – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi perfformwyr, y cast, y criw a’r cyfranwyr i hwyluso creu cynnwys cyfathrach ar gyfer cynyrchiadau, a sicrhau cydsyniad parhaus drwy gydol y broses cynhyrchu fel Cydlynydd Cyfathrach neu Gydlynydd Cyfathrach Arweiniol.
- Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddehongli, ymchwilio, cynghori ar, gweithredu a monitro datrysiadau cynaliadwy ar gyfer cynyrchiadau er mwyn creu gostyngiad mesuradwy o ran effeithiau amgylcheddol cynyrchiadau. Bydd y rolau hyn yn uwchsgilio’r criw presennol o’u hamgylch felly mae agwedd bendant i’r rôl o ran addysgu ac ysbrydoli cydweithwyr a’r diwydiant ehangach hefyd.
Er mwyn sicrhau bod y gyfres newydd o safonau’n ymdrin â’r hynny a ystyrir yn arfer gorau ar hyn o bryd yn y diwydiant, rydym yn annog gweithwyr proffesiynol y diwydiant i gyfrannu eu barn ynghylch y safonau drafft hyn drwy gyflwyno adborth am y rhannau sy’n berthnasol iddyn nhw erbyn hanner dydd, Chwefror y 26ain 2025 a hanner dydd, Mawrth y 4ydd 2025.
Ewch ati i fwrw golwg ar y safonau a chynnig sylwadau amdanyn nhw drwy glicio’r dolenni isod:
Cydlynu Hygyrchedd ar gyfer Cynyrchiadau
Cydlynu Cyfathrach ar gyfer Cynyrchiadau
Cynaliadwyedd ar gyfer Cynyrchiadau
Gofynnwn yn garedig ichi wahodd eich cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol yn eich rhwydweithiau, a allai fod yn awyddus i leisio’u barn, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Diolch ymlaen llaw am roi o’ch amser
Cysylltwch gyda krisztina.biliczky@screenskills.com i wybod mwy neu i rannu eich barn am y safonau.