Becs Meredith on ScreenSkills support in Wales - Welsh language version

Cawsom sgwrs â’n rheolwr hyfforddiant, Rebecca Meredith, i gael gwybod beth sy’n gwneud diwydiannau sgrîn Cymru mor unigryw, yn ogystal â’r cyfleoedd a’r hyfforddiant sydd ar y gweill i griwiau Cymru yn 2024, a phrif feysydd blaenoriaeth y diwydiant.

Image: Becs Meredith

Beth sy’n gwneud y diwydiant (teledu) yn unigryw yng Nghymru?

Pan ddechreuais yn y swydd, ro’n i’n falch iawn o weld pa mor groesawgar a chefnogol yw ein rhwydwaith yma yng Nghymru, pa mor angerddol yw ein diwydiant dros ddatblygu pobl a pha mor falch ydyn nhw o’r talent rhagorol sydd ar gael yng Nghymru. Oherwydd hyn a chwmnïau, cynyrchiadau, stiwdios a lleoliadau ardderchog, rwy’n teimlo’n lwcus iawn o gael cyfle i gefnogi ein diwydiant a gweithio gyda phobl hyfryd yng Nghymru bob dydd.

Beth gall gweithwyr llawrydd a chriwiau Cymru edrych ymlaen ato gan ScreenSkills eleni?

Ble i ddechrau? Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyfforddiant a’r rhaglenni sy’n cael eu dylunio a’u cyflawni diolch i gymorth ein gweithgorau gwych yng Nghymru. Mae’r rhain yn dimau o uwch weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a fydd yn llywio a siapio sut fyddwn yn buddsoddi ein holl gyllid bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn hollol siŵr ein bod yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau ac yn gwneud gwahaniaeth. Eleni, rydym wedi buddsoddi i ddatblygu Penaethiaid Adran yng Nghymru, cydlynwyr perthynas, a rhaglen drosglwyddo gwallt a cholur newydd sbon ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad mewn lliw croen a steiliau gwallt amrywiol sydd am weithio ym maes teledu a ffilm, yn ogystal â chriw mewn adrannau lleoliad, cyfrifon, golygu a llawer mwy. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu criwiau ar bob lefel, felly os ydych chi yng Nghymru, gallwch edrych ymlaen at ragor o raglenni a chyfleoedd ardderchog. Fe fyddwch chi hefyd yn fy nghlywed i’n eu trafod yn ddiddiwedd!

Yn eich barn chi, beth sy’n faes blaenoriaeth i’r diwydiant yng Nghymru eleni, a beth mae ScreenSkills yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn?

Ar sail yr ymchwil diwydiant a wnaed, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd lle nodwyd bylchau o ran sgiliau, ac yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ym mhob un o’n ffrydiau cyflawni, gan gefnogi pobl ar bob cam o’u gyrfaoedd.

Back to news