Mae ScreenSkills wedi ymrwymo i gefnogi’r gweithlu sgrin ar draws y DU. Mae amrywiaeth o raglenni hyfforddi, digwyddiadau, cyrsiau a chyfleoedd ar gael i’r rhai sydd am ddechrau neu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan fuddsoddi yn natblygiad talent y diwydiant.
Rydyn ni’n edrych yn agosach ar rai o’r buddsoddiadau a wnaed yn y cenhedloedd a’r hyfforddiant a roddwyd ar waith i helpu i ddatblygu gweithlu’r ardal. Fis yma, rydyn ni’n canolbwyntio ar straeon rhai o'r bobl sy’n cael eu cefnogi gan hyfforddiant a gweithgarwch ScreenSkills yng Nghymru.
Cymorth yng Nghymru: Cronfa Sgiliau Teledu ym Mhen Ucha’r Farchnad (HETV)
Cymorth yng Nghymru
O newydd-ddyfodiaid i’r rhai sy’n cymryd camau newydd yn eu gyrfaoedd sgrin, mae’r Gronfa Sgiliau HETV wedi cefnogi ymgeiswyr o Gymru ar bob lefel i ddod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu eu siwrneiau o fewn y diwydiant.
Rhaglen gynhwysiant yw Cyfle Cyntaf neu ‘First Break’ i newydd-ddyfodiaid sy'n ceisio agor cwr y llen ar y diwydiant teledu ar gyfer unigolion na fyddent, fwy na thebyg, byth yn ystyried y diwydiant fel llwybr gyrfa posib iddyn nhw.
Mae’r rhaglen yn gweithio gyda darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu a phartneriaid lleol i annog, meithrin a chefnogi unigolion i archwilio gyrfa ym myd teledu, gan roi'r adnoddau cychwynnol, y wybodaeth a'r profiadau blasu o weithio yn y diwydiant iddyn nhw.
Drwy ein menter, dechreuodd Callum Flynn ei yrfa HETV gyda lleoliad gwaith ar gyfres arswyd
chwe-rhan sydd ar y gweill. Rhannodd sut rhoddodd y rhaglen hwb mawr i’w hyder ac i greu cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant, gan arwain at interniaeth gyda Rondo Media.
“Yr uchafbwynt i fi oedd cael gweld yn uniongyrchol sut mae teledu’n cael ei greu a sut mae pob adran yn dod at ei gilydd i greu golygfa. Mae’r cynllun wedi fy helpu’n aruthrol ac wedi rhoi mwy o hyder i fi a’m gallu fel gwneuthurwr ffilmiau. Diolch i’r cysylltiadau a ddatblygais drwy'r swydd hon, fe welais interniaeth gyda Rondo Media, ac rwy’n credu mai Cyfle Cyntaf roddodd yr hyder i fi wneud cais llwyddiannus!”
Roedd yr artist gwallt a cholur Rebecca Hainsworth wedi bod yn mireinio ei chrefft ers 16 mlynedd cyn darganfod prif raglen y Gronfa i newydd-ddyfodiaid, yr adnodd Canfod Cyfle Hyfforddi. Mae'n darparu lleoliadau cynhyrchu â thâl i ymgeiswyr ochr yn ochr â chyfleoedd hyfforddi wedi'u teilwra a rhwydweithio. Gyda chymorth y rhaglen a’r hyfforddiant sy’n paratoi pobl dan hyfforddiant i fod ar set, cymerodd ei chamau cyntaf i faes gwallt a cholur ym maes ffilm a theledu, gan weithio yn y pen draw ar rifyn y Nadolig o Gavin & Stacey.
“Rydw i wedi bod yn y diwydiant gwallt ers 16 mlynedd. Heb ddarganfod fy lleoliad hyfforddi cychwynnol drwy’r adnodd Canfod Cyfle Hyfforddi, ni fyddwn wedi gwybod ble i ddechrau ym maes gwallt a cholur ffilm a theledu. Mae fy mhrofiad gyda’r adnodd Canfod Cyfle Hyfforddi wedi bod yn wych: y cymorth parhaus, y cyfathrebu, yr addysg a’r cyfleoedd. O ddiwrnod y cyfweliadau cychwynnol a’n cyfnod cynefino, mae fy mhrofiad wastad wedi bod yn bositif a chyfeillgar iawn. Rwy’n meddwl mai’r hyn rydw i wedi’i ganfod fwyaf defnyddiol oedd yr hyfforddiant parhaus, fel sut i ysgrifennu CV a chwrdd â chynllunwyr, ar Zoom, a fyddai’n dweud wrthym am sut i ymddwyn ar y set a’r pethau i’w gwneud a’r pethau na ddylid eu gwneud yn y diwydiant. Rydw i bellach ar fy seithfed cynhyrchiad cyflogedig, gyda phedwar o'r rhain drwy ScreenSkills.”
Mae rhaglen drosglwyddo Gwallt a Cholur y Gronfa wedi'i chynllunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n fedrus wrth weithio gyda cholur ar gyfer amrywiaeth o donau croen a gwallt gweadog, i drosglwyddo i rolau yn y diwydiant teledu ym mhen ucha’r farchnad yng Nghymru.
Gyda hyfforddiant arbenigol Academi Gwallt Affro Cymru, mae’r cwrs yn cynnig profiad hollbwysig a chysylltiadau o fewn y diwydiant sydd eu hangen i lwyddo mewn rolau gwallt a cholur y tu ôl i’r camera yn niwydiant teledu pen ucha’r farchnad.
Fe wnaethon ni sgwrsio â chyfarwyddwr yr academi ac arweinydd y cwrs, Joy Djadi, am ei phrofiad o gyflwyno’r rhaglen. “Ces i gyfle yn ddiweddar i gyflwyno Rhaglen Drosglwyddo Gwallt a Cholur yng Nghymru. Wedi’i hariannu gan y Gronfa Sgiliau HETV, nod y rhaglen oedd cefnogi gweithwyr gwallt a cholur profiadol, sy’n fedrus wrth weithio gyda cholur ar gyfer tonau croen dyfnach a gwallt gweadog, i drosglwyddo i ddiwydiant teledu’r DU. Roedd y gefnogaeth gan Gronfa Sgiliau HETV yn cynnig mynediad at adnoddau, cipolwg ar y diwydiant a fframwaith wedi’i strwythuro a gyfoethogodd y profiad hyfforddi. Mae cyflwyno’r rhaglen hon wedi bod yn brofiad gwerth chweil: mynegodd y cyfranogwyr hyder cynyddol yn eu gallu, ac mae sawl un eisoes wedi dechrau cael cyfleoedd yn y diwydiant a lleoliadau hyfforddi cyflogedig! Roedd yn ysbrydoledig gweld yr unigolion yn tyfu.”
Y llynedd, comisiynodd y Gronfa Sgiliau HETV Reeltime Media i gefnogi 28 o barau rhannu swydd newydd ar gynyrchiadau’r DU sy’n cyfrannu at y Gronfa. Darparodd y rhaglen hyfforddiant, cymorth parhaus, a hyd at £8k fesul rhannu swydd ar gyfer diwrnodau trosglwyddo yn ystod cyflogaeth. Mae’n cynnig hyblygrwydd i’r rhai sydd ag ymrwymiadau y tu allan i’r gwaith ac yn caniatáu iddyn nhw barhau i weithio yn y diwydiant ac i rannu eu harbenigedd tra’n sicrhau bod ganddyn nhw amser i ymrwymo i’w bywyd y tu allan i’r maes cynhyrchu.
Yng Nghymru, fe wnaethom gefnogi parau rhannu swydd y tu ôl i’r camera ym maes cynhyrchu, cynllunio setiau a gwisgoedd ar y sioeau o Gymru Lost Boys and Fairies, Famous Five a Doctor Who. Rhannodd Michelle Reynolds, Cyd-Gyfarwyddwr Reeltime Media ei phrofiad o redeg y rhaglen.
“Mae rhedeg rhaglen rhannu swydd HETV ScreenSkills wedi bod yn fraint aruthrol oherwydd rydw i’n gallu gweld ei bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gadw talent gwych, profiadol ac amrywiol yn y diwydiant. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn gweld cynyrchiadau o Gymru yn cofleidio rhannu swyddi wrth iddyn nhw ddeall y manteision y mae dau ymennydd creadigol yn eu rhoi i’w timau.”
Cymorth yng Nghymru: Cronfa Sgiliau Teledu Di-sgript
Ers 2021, mae’r Gronfa Sgiliau Teledu Di-sgript wedi bod yn buddsoddi mewn cymorth i'r diwydiant teledu di-sgript yn y DU. Mae’r Gronfa Sgiliau Di-sgript, sydd ag elfen o gystadleuaeth iddi, yn rhan o hyn – gan ddarparu cymorth ariannol lleiafrifol ar gyfer hyfforddiant trydydd parti fel rhaglen Lleisiau Newydd o Gymru 2025 It’s My Shout.
Dywedodd Anna Arrieta, Pennaeth Prosiectau a Datblygu, It’s My Shout: “Diolch i’r Gronfa Deledu
Di-sgript, sydd ag elfen o gystadleuaeth iddi, mae It's My Shout Productions CIC yn falch o gynnig cyfleoedd datblygu i wneuthurwyr rhaglenni dogfen yng Nghymru. Nod ein menter, Lleisiau Newydd o Gymru 2025, yw cryfhau straeon amrywiol pobl ledled Cymru drwy raglenni dogfen apelgar. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cymorth ScreenSkills, sy’n caniatáu i ni gydweithio a chyflwyno talent newydd o Gymru i’r byd deinamig o gynhyrchu ffilmiau dogfen.
Cymorth yng Nghymru: y Gronfa Sgiliau Teledu Plant
Cyfle ‘Make a Move’ ar raglen blant Gwyliau –
Datblygwyd rhaglen ‘Make a Move’ y Gronfa Sgiliau Teledu Plant i helpu gweithwyr proffesiynol lefel ganol i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd sgrin. Mae'n cefnogi hyfforddiant yn y gwaith i aelodau’r criw sy'n barod i gamu i rolau uwch drwy gysgodi mewn swyddi cynhyrchu a chyfleoedd mentora. Yng Nghymru, mae Rheolwr Gyfarwyddwr Mojo TV a’r cynhyrchydd Llyr Morus yn rhannu sut wnaethon nhw ddefnyddio arian MaM i gefnogi 3 chyfarwyddwr Cymraeg newydd ar eu criw ar gyfer Gwyliau.
“Mae cymorth wrth fentrau fel ‘Make a Move’ yn wych ac yn hollbwysig i ddyfodol y diwydiant. Mae bod mewn sefyllfa i gynnig cyfleoedd i gyfarwyddwyr newydd ar gynhyrchiad teledu diweddaraf Mojo Productions i blant, ‘Gwyliau’, ar gyfer S4C Cyw, wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi gweld tri chyfarwyddwr newydd yn cael cyfle i ffynnu a datblygu, diolch i gymorth y fenter wych hon gan ScreenSkills. Mae gallu cynnig y cyfle datblygu hwn ar brosiect Cymraeg yng Nghymru wedi bod yn grêt a bydd yn helpu i ddiogelu dyfodol y diwydiant. Ni fyddai wedi bod yn bosib heb gymorth ariannol ‘Make a Move’ gan ScreenSkills. Boed i hynny barhau.”